Cefndir a Diben
Mae'r offeryn hwn yn gwneud amryw ddiwygiadau technegol i ddeddfwriaeth yr UE a ddargedwir a deddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o'r UE mewn perthynas â safonau marchnata ar gyfer cynhyrchion amaethyddol. Mae'r diwygiadau mewn dau gategori:
· Diwygiadau canlyniadol o ganlyniad i gyflwyno Deddf Amaethyddiaeth 2020; a
· Diwygiadau gweithredol o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd (UE).
Mae'r diwygiadau naill ai yn dileu croesgyfeiriadau at erthyglau yn Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 (EUR 2013/1308) ("y Rheoliad CMO" sydd wedi cael eu datgymhwyso gan Ran 4 o Atodlen 7 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020, ynghyd â'r geiriad cysylltiedig mewn rhai achosion, neu yn gweithredu i ddisodli cyfeiriadau at erthyglau yn y Rheoliad CMO gyda chyfeiriadau priodol at ddeddfwriaeth yr UE a ddargedwir neu at Ddeddf Amaethyddiaeth 2020.
Gweithdrefn
Negyddol.
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Gwneir diwygiadau tebyg i ddeddfwriaeth arall yr UE a ddargedwir a deddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o'r UE mewn perthynas â Chymru gan Reoliadau Cyd-drefniadaeth ar gyfer y Marchnadoedd mewn Cynhyrchion Amaethyddol (Diwygio). Gwnaed yr offeryn hwn gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 7 Tachwedd 2022 a’i osod gerbron Senedd y DU ar 8 Tachwedd 2022, gan ddod i rym ar 1 Rhagfyr 2022.
Gosododd Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Ddatganiad Ysgrifenedig gerbron y Senedd o dan Reol Sefydlog 30C mewn perthynas â'r offeryn hwn ar 9 Tachwedd 2022.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
7 Rhagfyr 2022